2014 Rhif 286 (Cy. 35)

landlord a thenant, cymru

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012 (O.S. 2012/531) (“y Prif Reoliadau”) o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol gan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012.

Caiff rheoliad 49 ei ddiwygio er mwyn caniatáu ystyried y ffaith bod credyd cynhwysol yn cael ei dderbyn wrth benderfynu a ellir hepgor ffi tribiwnlys.

Caiff yr Atodlen i'r Prif Reoliadau hefyd ei diwygio i gynnwys prawf bod credyd cynhwysol wedi cael ei dalu o fewn y rhestr o ddogfennau penodedig y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda cheisiadau penodol a restrir yn yr Atodlen honno.


2014 Rhif 286 (Cy. 35)

landlord a thenant, cymru

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                             11 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       13 Chwefror 2014

Yn dod i rym                        10 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 250(2)(a) o Ddeddf Tai 2004 ac Atodlen 13 iddi([1]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 10 Mawrth 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012([3]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2) Yn rheoliad 49(2) (atebolrwydd i dalu ffi a hepgor ffioedd)—

(a)     dileer yr atalnod llawn ar ddiwedd is-baragraff (d); a

(b)     ar ôl is-baragraff (d), mewnosoder—

“; neu

(dd) credyd cynhwysol.”

(3) Ym mharagraff 13 o'r Atodlen—

(a)     yn is-baragraff (2)(a)(iv) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu’r credyd cynhwysol”; a

(b)     yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu gredyd cynhwysol”.

(4) Ym mharagraff 19 o'r Atodlen—

(a)     yn is-baragraff (2)(a)(iv) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu’r credyd cynhwysol”; a

(b)     yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu gredyd cynhwysol”.

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

 

11 Chwefror 2013

 



([1]) 2004 p.34.      

([2]) Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan

       Ddeddf Tai 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30  o

      Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).        

([3]) O.S. 2012/531 (Cy.83).